Pen-blwydd?

Cafodd Dad a Mam eu dihuno gan sŵn ofnadwy. Neidiodd y ddau i fyny yn y gwely ac edrych ar ei gilydd mewn dychryn.

Roedd y sŵn fel cath yn sgrechian… neu frân yn crawcian… neu flaidd yn udo.

“O, na! Nel!” meddai’r ddau ar yr un pryd.

Edrychodd Dad ar y cloc.

“Chwarter wedi tri,” cwynodd. “Well i ni fynd i weld beth sy’n bod.”

 

Doedd Dad a Mam ddim yn gwybod beth i’w ddisgwyl wrth agor drws stafell Nel. Ond doedden nhw ddim yn disgwyl hyn.

Roedd gan Nel wallt melyn cyrliog a llygaid mawr glas. A phan oedd hi’n gwenu? Wel, edrychai fel angel fach.

OND, roedd hi’n wyllt fel teigr…

Ac roedd ganddi lais uchel iawn.

Pan oedd Nel yn gweld pwll dŵr, roedd hi’n neidio ynddo.

Pan oedd hi’n gweld baw, roedd hi’n ei daflu – yn arbennig ar blant bach iau na hi. Roedd hynny’n gwneud iddi chwerthin nes ei bod yn gorfod croesi ei choesau rhag ofn iddi wneud pi-pi.

Safai Nel ar dop y gwely caban yn trio tynnu’r piano tegan i fyny ati. Ond roedd y piano’n sownd yn yr ysgol oedd yn helpu Nel i fynd i’r gwely.

“Peidiwch â sefyll fan’na! Helpwch fi!” rhuodd Nel.

Neidiodd Dad i’w helpu yn ufudd.

Pan osododd Nel y piano ar y gwely, symudai’r tegan fel jeli ar blât. Ond doedd dim stop ar Nel. Dechreuodd chwarae’r piano’n wyllt a chanu’n groch:

“Pen-blwydd hapus i fi,

Pen-blwydd hapus i FIIIIIIIIIIIII!!!!!!”

gan stopio bob hyn a hyn i arwain côr o deganau.

Druan â nhw! Roedd yn gas eu gweld. Roedd Ted-ted, yr arth fach un llygad, yno… a Sali Mali – er na fyddech chi’n ei nabod hi nawr. Collodd ei bynsen ddu mewn gêm o Siop Trin Gwallt Nel… A fu’r Dewin Dwl fyth yr un fath ers colli ei het.

Roedd hyd yn oed Mister Fflwff yno, cath y teulu. Ond doedd e ddim yn edrych yn hapus O GWBWL.

“Ydy e’n lico gwisgo tiara?” gofynnodd Dad yn betrus. “A sgert ffrils?”

“Wel, dwi wedi dweud wrtho fe’n glir. Dim sgert a tiara – DIM cacen ben-blwydd.”

(Mister Fflwff oedd yr unig gath yn y byd oedd yn hoffi cacen.)

“Oes rhywun yn cael pen-blwydd heddi ’te?” mentrodd Mam.

Bu distawrwydd am eiliad.

“FI!!!!” atebodd Nel mewn llais uchel.

Chwarddodd Dad a Mam – ond yn nerfus iawn. Roedden nhw’n dal i gofio’r pen-blwydd diwethaf. Roedd y cymdogion yn dal i gofio’r sŵn a’r sterics.

“Ond mae chwe mis arall tan dy ben-blwydd di, Nel fach,” meddai Mam.

“Na.” Roedd llygaid Nel yn gul fel dwy gyllell.

“Oes,” meddai Dad, gan drio bod yn gadarn.

“Nag oes,” meddai Nel yn fwy cadarn.

“OES, Nel!” meddai’r ddau arall.

Roedd hyd yn oed Mister Fflwff yn nodio (ond yn ofalus iawn, rhag ofn i’r tiara gwympo).

Bu Nel yn dawel am funud.

Caeodd ei llygaid.

Daliodd ei gwynt.

Yna, aeth ei hwyneb yn binc.

Ac yna’n goch.

Ac yna’n biws.

Roedd Mam yn gwybod beth oedd yn dod nesaf.

“Paid â sgrechian!” meddai. “Os wyt ti’n sgrechian, fydd dim cacen.”

“Ti’n mynd i wneud cacen?” Agorodd Nel ei llygaid.

Nodiodd Mam.

“A ti’n mynd i’w gwneud hi CYN brecwast?”

“Mmm.” Llyncodd Mam ei phoer.

“A ga i helpu? Hidlo’r fflŵr… torri’r wyau… POB DIM? A ga i fwyta sleisen fawr i frecwast?”

“Wel, y…”

Gydag un hwff mawr, daliodd Nel ei gwynt.

“Wrth gwrs gei di helpu,” atebodd Dad.

Edrychodd Mam arno’n gas.

Bu raid i Dad a Mam symud yn gyflym wrth i’r piano saethu tuag atyn nhw fel trên yn dod oddi ar y trac. Roedd parti’r teganau drosodd am y tro.

Wyt ti am wybod beth sy'n digwydd nesaf?

PRYNWCH!

£4.95